Y Ddiod Ddelfrydol

Y Ddiod Ddelfrydol  

Ry'n ni'n argymell gweini GŴYR fel G&T mewn un o ddwy ffordd; allwn ni ddim penderfynu p'un sydd orau - ni'n dwlu ar y ddwy gymaint. Fe fydden i wrth ein bodd cael clywed pa un sy' orau gyda chi. 

Dewiswch eich gwydr; mae'n well gyda ni wydr hir gosgeiddig ond mae gwydr 'copa' yn gweithio'n iawn hefyd. Llenwch y gwydr at yr hanner ffordd gydag iâ ac arllwys 50ml o GŴYR drosto (pam gweini un sengl?). Ychwanegwch naill ai stribyn o groen oren i ddod â'r blas ffenigl i'r amlwg, neu sleisen denau o rawnffrwyth pinc i bwysleisio ffresni'r sitrws. Troellwch, ymlaciwch a mwynhewch - Iechyd da!
 

Share by: