Cwrs Cyntaf: Corgimychiaid Jin-sur
Ar gyfer y cwrs cyntaf, trois at hen ffefryn o rysait, sy'n hawdd iawn ei baratoi. Rwy'n hoff iawn o gorgimychiaid, yn arbennig rysait a greais i yn sgil ymweliad â bwyty yn Östermalm, Stockholm, ac a ddatblygais ymhellach yn sgil fy nheithiau niferus i Olhão, Portiwgal. Y prif gynhwysion arferol yw garlleg, gwin gwyn a coriander; penderfynais addasu'r rysait rhyw fymryn, i adlewyrchu blas sitrws y jin, gan gynnwys mwy o flasau o'r Dwyrain Pell, gan gynnwys sinsir a lemwnwellt.
Rhaid i mi gyfaddef wrth dywallt y jin i'r ffrimpan, blasais damaid, ac roedd yr alcohol yn eithriadol o gryf... bron iawn i mi ddifaru'r her wirion, wir. Ond wrth i'r saws ddechrau ffrwtian, anweddodd yr alcohol, i adael cynhesrwydd cyfoethog wnaeth weddu i'r tanbeidrwydd Dwyreiniol. Roedd y canlyniad yn fendigedig. Mae'r rysait isod yn gweini 3-4 person.
3 Llwy Fwrdd o Olew Olewydd (ychwanegwch ragor wrth ffrio os ydych yn dymuno)
Dau lond llaw o Gorgimychiaid o'r Farchnad (neu 2 becyn o'r archfarchnad)
1 Nionyn wedi'i dorri'n fân.
10 gewin Garlleg wedi'u torri'n fân (defnyddiwch lai os ydych yn dymuno)
1 Darn o Sinsir Ffres, maint eich bawd (wedi'i dorri'n fân)
2 welltyn Lemwnwellt (un wedi'i dorri'n fân, y llall i ychwanegu blas i'r potes)
1 Llwy Fwrdd o goesau Coriander (wedi'u torri'n fân)
2 Llwy Fwrdd o ddail blodeuog Coriander
1/2 Llwy De o greision Tsili (Chill Flakes)
100ml Jin Gŵyr
Halen a Phupur
1. Torrwch y nionyn, garlleg, sinsir, coesau coriander, ac 1 lemwnwellt yn fân a'u ffrio nhw i gyd gyda'i gilydd ar wres canolig am 10 munud yn yr olew olewydd.
2. Ychwanegwch y corgimychiaid, a troellwch y cyfan am ddau funud cyn cyflwyno'r jin i'r gymysgedd. Ychwanegwch lond llaw o ddail blodeuog coriander, halen a phupur, a chreision tsili, ynghyd â'r gwelltyn lemwnwellt ychwanegol, a ffriwch y cyfan am 5 munud arall.
3. Cyflwynwch y cyfan mewn bowlen, a'i addurno â'r dail blodeuog coriander sydd yn weddill, a'i weini gyda bara surdoes wedi'i gynhesu a'i dafellu, a mwynhewch.