Mae The Gower Gin Company wedi ei leoli ym Morth Einon ar benrhyn Gŵyr. Rydyn ni'n teimlo'n hollol angerddol am jin ac ry'n ni wedi treulio'r 12 mis diwethaf yn datblygu rysáit arbennig, sydd yn ein barn ni, yn adlewyrchu'r ardal sy'n gartref i ni. Ein gobaith yw y byddwch chi'n ei fwynhau lawn cymaint â ni.
Ein bwriad yw cynhyrchu jin crefft ar raddfa fechan, sy'n crynhoi ffresni'r môr a pherarogl yr arfordir a'r twyni tywod sydd o'n cwmpas. Ry'n ni am fod yn llysgenhadon cryf dros ardal Gŵyr a thros Gymru, a dyma'r rheswm i ni ddewis enw hollol Gymraeg ar gyfer ein jin - GŴYR.
Mae'r siwrnai i ddatblygu GŴYR wedi bod yn daith wych yn llawn darganfyddiadau, a ry'n ni am ei rhannu hi gyda chi. Ry'n ni'n distyllu yn Ne Cymru ar benrhyn Gŵyr, lle mae ein hysbrydoliaeth ni, yn ogystal â'r ffenigl, yn tarddu ohono.