Cyfrifoldeb Cymdeithasol

Cyfrifoldeb cymdeithasol

Ry'n ni'n credu ei bod hi'n bwysig i yfed yn gyfrifol a dyma pam ein bod ni'n cynnwys y neges hon ar ein poteli jin.

Pan fyddwn ni'n casglu'r ffenigl ar gyfer ein jin, ry'n ni'n dilyn y 'Cod Casglu'. Felly ry'n ni ond yn casglu mewn mannau lle mae digonedd yn tyfu, dydyn ni ddim yn casglu'r cyfan o un safle a'i adael yn hollol foel, ac ry'n ni'n defnyddio cyllell i'w torri. Hefyd ry'n ni'n tyfu ffenigl ein hunain er mwyn diogelu'r ffenigl sy'n tyfu'n wyllt. 

Rydyn ni'n falch i gael byw mewn 'Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol' a ry'n ni am gefnogi a hyrwyddo'r ardal hardd hon gymaint ag y gallwn ni.
 

Share by: