Croeso

Croeso


"Tra cwmni a storïau - a dawns sêr
Llundain sych mewn gwydrau,
ym min hwyr down a mwynhau
ein Jin Gŵyr, y jin gorau!"
mh

Mae Jin Gŵyr yn gyfuniad soffistigedig o wyth o gynhwysion botanegol, ac yn uno lemwn a grawnffrwyth pinc gyda ffenigl efydd a gwyrdd. Mae'r rysáit yn dal holl ffresni'r môr ac arogl perlysiau lleol. Mae GŴYR yn cael ei wneud yn steil Sych Llundain gydag ABV o 43% sy'n rhoi blas llyfn, hufennog iddo.

I ddathlu'n pen-blwydd 1af, ry'n ni wrth ein boddau i lansio'n jin newydd, wedi'i ddistyllu yng Ngŵyr yn ein micro-ddistyllfa ym Mhorth Einon - GŴYR: Pinwydd - jin sych Llundain crefftus, wedi'i gynhyrchu ychydig ar y tro â nodwyddau pinwydd a gasglwyd, orennau a llugaeron.

Mae ein cynllun streipiog gwahanol yn cyfuno lliw glas dwfn y môr gyda chopr llachar sydd wedi ei fowldio i sefyll allan ar y label. Wrth gwrs, roedd Abertawe'n enwog am ei diwydiant copr yn y 18fed a'r 19eg ganrif.

Penrhyn Gŵyr

Penrhyn Gŵyr oedd yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol gyntaf i gael ei dynodi yn y DU.

Mae'r penrhyn yn adnabyddus am ei draethau a'i olygfeydd syfrdanol o hardd a'i chwaraeon dŵr, bwyd môr a'i hinsawdd mwyn, sy'n golygu ei fod yn un o'r mannau gwyliau mwyaf poblogaidd yng Nghymru.


Share by: