Gwneud Jin GŴYR
Gwneir GŴYR drwy gyfuno wyth o gynhwysion botanegol, gan gynnwys meryw, croen ffres lemwn, croen ffres grawnffrwyth pinc, ffenigl gwyrdd a ffenigl efydd.
Mae'r botanegau'n mwydo am bron i ddau ddiwrnod, yna mae'r wirod sydd wedi'i thrwytho yn cael ei distyllu'n araf er mwyn creu cyfuniad arbennig GŴYR. Mae'r ABV o 43% yn rhoi gorffeniad llyfn.
Pan fyddwch chi'n ei flasu, ry'n ni'n gobeithio cewch chi'ch cludo i'r traethau euraidd maith a'r awyr iach yn un o'r llefydd harddaf yng Nghymru.